6 Fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw’, ac fe dwyllant lawer.
7 A phan glywch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, peidiwch â chyffroi. Rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.
8 Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfâu mewn mannau. Bydd adegau o newyn.
9 Dechrau'r gwewyr fydd hyn. A chwithau, gwyliwch eich hunain; fe'ch traddodir chwi i lysoedd, a chewch eich fflangellu mewn synagogau a'ch gosod i sefyll gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth yn eu gŵydd.
10 Ond yn gyntaf rhaid i'r Efengyl gael ei chyhoeddi i'r holl genhedloedd.
11 A phan ânt â chwi i'ch traddodi, peidiwch â phryderu ymlaen llaw beth i'w ddweud, ond pa beth bynnag a roddir i chwi y pryd hwnnw, dywedwch hynny; oblegid nid chwi sydd yn llefaru, ond yr Ysbryd Glân.
12 Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd.