16 Aeth y disgyblion ymaith, a daethant i'r ddinas a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
17 Gyda'r nos daeth yno gyda'r Deuddeg.
18 Ac fel yr oeddent wrth y bwrdd yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i, un sy'n bwyta gyda mi.”
19 Dechreusant dristáu a dweud wrtho y naill ar ôl y llall, “Nid myfi?”
20 Dywedodd yntau wrthynt, “Un o'r Deuddeg, un sy'n gwlychu ei fara gyda mi yn y ddysgl.
21 Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni.”
22 Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi iddynt, a dweud, “Cymerwch; hwn yw fy nghorff.”