2 Oherwydd dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.”
3 A phan oedd ef ym Methania, wrth bryd bwyd yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig a chanddi ffiol alabastr o ennaint drudfawr, nard pur; torrodd y ffiol a thywalltodd yr ennaint ar ei ben ef.
4 Ac yr oedd rhai yn ddig ac yn dweud wrth ei gilydd, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn ar yr ennaint?
5 Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am fwy na thri chant o ddarnau arian a'i roi i'r tlodion.” Ac yr oeddent yn ei cheryddu.
6 Ond dywedodd Iesu, “Gadewch iddi; pam yr ydych yn ei phoeni? Gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.
7 Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, a gallwch wneud cymwynas â hwy pa bryd bynnag y mynnwch; ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.
8 A allodd hi, fe'i gwnaeth; achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth.