24 A dywedodd wrthynt, “Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy'n cael ei dywallt er mwyn llawer.
25 Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad yfaf byth mwy o ffrwyth y winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.”
26 Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i Fynydd yr Olewydd.
27 A dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Trawaf y bugail,a gwasgerir y defaid.’
28 “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.”
29 Meddai Pedr wrtho, “Er iddynt gwympo bob un, ni wnaf fi.”
30 Ac meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno nesaf, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fy ngwadu i deirgwaith.”