28 “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.”
29 Meddai Pedr wrtho, “Er iddynt gwympo bob un, ni wnaf fi.”
30 Ac meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno nesaf, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fy ngwadu i deirgwaith.”
31 Ond taerai yntau'n fwy byth, “Petai'n rhaid imi farw gyda thi, ni'th wadaf byth.” A'r un modd yr oeddent yn dweud i gyd.
32 Daethant i le o'r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.”
33 Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys,
34 ac meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch.”