39 Aeth ymaith drachefn a gweddïo, gan lefaru'r un geiriau.
40 A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm; ac ni wyddent beth i'w ddweud wrtho.
41 Daeth y drydedd waith, a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyna ddigon. Daeth yr awr; dyma Fab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid.
42 Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.”
43 Ac yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn cyrraedd, a chydag ef dyrfa yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid.
44 Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel.”
45 Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, “Rabbi,” a chusanodd ef.