50 A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.
51 Ac yr oedd rhyw lanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef,
52 ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi'n noeth.
53 Aethant â Iesu ymaith at yr archoffeiriad, a daeth y prif offeiriaid oll a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion ynghyd.
54 Canlynodd Pedr ef o hirbell, bob cam i mewn i gyntedd yr archoffeiriad, ac yr oedd yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, yn ymdwymo wrth y tân.
55 Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio tystiolaeth yn erbyn Iesu, i'w roi i farwolaeth, ond yn methu cael dim.
56 Oherwydd yr oedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.