64 Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?” A'u dedfryd gytûn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth.
65 A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio a dweud wrtho, “Proffwyda.” Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau.
66 Yr oedd Pedr islaw yn y cyntedd. Daeth un o forynion yr archoffeiriad,
67 a phan welodd Pedr yn ymdwymo edrychodd arno ac meddai, “Yr oeddit tithau hefyd gyda'r Nasaread, Iesu.”
68 Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf yn gwybod nac yn deall am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac aeth allan i'r porth.
69 Gwelodd y forwyn ef, a dechreuodd ddweud wedyn wrth y rhai oedd yn sefyll yn ymyl, “Y mae hwn yn un ohonynt.”
70 Gwadodd yntau drachefn. Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl yn dweud wrth Pedr, “Yr wyt yn wir yn un ohonynt, achos Galilead wyt ti.”