7 Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, a gallwch wneud cymwynas â hwy pa bryd bynnag y mynnwch; ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.
8 A allodd hi, fe'i gwnaeth; achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth.
9 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.”
10 Yna aeth Jwdas Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg, at y prif offeiriaid i'w fradychu ef iddynt.
11 Pan glywsant, yr oeddent yn llawen, ac addawsant roi arian iddo. A dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.
12 Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan leddid oen y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “I ble yr wyt ti am inni fynd i baratoi i ti, i fwyta gwledd y Pasg?”
13 Ac anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, “Ewch i'r ddinas, ac fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef,