9 Ar ôl atgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Fair Magdalen, gwraig yr oedd wedi bwrw saith gythraul ohoni.
10 Aeth hi a dweud y newydd wrth ei ganlynwyr yn eu galar a'u dagrau.
11 A'r rheini, pan glywsant ei fod yn fyw ac wedi ei weld ganddi hi, ni chredasant.
12 Ar ôl hynny, ymddangosodd mewn ffurf arall i ddau ohonynt fel yr oeddent yn cerdded ar eu ffordd i'r wlad;
13 ac aethant hwy ymaith a dweud y newydd wrth y lleill. Ond ni chredodd neb y rheini chwaith.
14 Yn ddiweddarach, ymddangosodd i'r un ar ddeg pan oeddent wrth bryd bwyd, ac edliw iddynt eu hanghrediniaeth a'u hystyfnigrwydd, am iddynt beidio â chredu y rhai oedd wedi ei weld ef ar ôl ei gyfodi.
15 A dywedodd wrthynt, “Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd.