1 Dechreuodd ddysgu eto ar lan y môr. A daeth tyrfa mor fawr ynghyd ato nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch ar y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa ar y tir wrth ymyl y môr.
2 Yr oedd yn dysgu llawer iddynt ar ddamhegion, ac wrth eu dysgu meddai:
3 “Gwrandewch! Aeth heuwr allan i hau.
4 Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.