21 Dywedodd wrthynt, “A fydd rhywun yn dod â channwyll i'w dodi dan lestr neu dan wely? Onid yn hytrach i'w dodi ar ganhwyllbren?
22 Oherwydd nid oes dim yn guddiedig ond i gael ei amlygu, ac ni bu dim dan gêl ond i ddod i'r amlwg.
23 Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed.”
24 Dywedodd wrthynt hefyd, “Ystyriwch yr hyn a glywch. Â'r mesur y rhowch y rhoir i chwithau, a rhagor a roir ichwi.
25 Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.”
26 Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw: bydd dyn yn bwrw'r had ar y ddaear
27 ac yna'n cysgu'r nos a chodi'r dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu mewn modd nas gŵyr ef.