27 ac yna'n cysgu'r nos a chodi'r dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu mewn modd nas gŵyr ef.
28 Ohoni ei hun y mae'r ddaear yn dwyn ffrwyth, eginyn yn gyntaf, yna tywysen, yna ŷd llawn yn y dywysen.
29 A phan fydd y cnwd wedi aeddfedu, y mae'n bwrw iddi ar unwaith â'r cryman, gan fod y cynhaeaf wedi dod.”
30 Meddai eto, “Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y cyflwynwn hi?
31 Y mae'n debyg i hedyn mwstard; pan heuir ef ar y ddaear, hwn yw'r lleiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear,
32 ond wedi ei hau, y mae'n tyfu ac yn mynd yn fwy na'r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mor fawr nes bod adar yr awyr yn gallu nythu dan ei gysgod.”
33 Ar lawer o'r fath ddamhegion yr oedd ef yn llefaru'r gair wrthynt, yn ôl fel y gallent wrando;