6 a phan gododd yr haul fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.
7 Syrthiodd peth arall ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'i dagu, ac ni roddodd ffrwyth.
8 A syrthiodd hadau eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr oeddent yn ffrwytho ac yn cnydio hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.”
9 Ac meddai, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”
10 Pan oedd wrtho'i hun, dechreuodd y rhai oedd o'i gwmpas gyda'r Deuddeg ei holi am y damhegion.
11 Ac meddai wrthynt, “I chwi y mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi ei rhoi; ond i'r rheini sydd oddi allan y mae popeth ar ddamhegion,
12 fel“ ‘er edrych ac edrych, na welant,ac er clywed a chlywed, na ddeallant,rhag iddynt droi'n ôl a derbyn maddeuant.’ ”