29 A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf.
30 Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo'i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?”
31 Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ”
32 Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn.
33 Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir.
34 Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”
35 Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni'r Athro bellach?”