33 Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir.
34 Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”
35 Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni'r Athro bellach?”
36 Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni, dim ond credu.”
37 Ac ni adawodd i neb ganlyn gydag ef ond Pedr ac Iago ac Ioan, brawd Iago.
38 Daethant i dŷ arweinydd y synagog, a gwelodd gynnwrf, a phobl yn wylo ac yn dolefain yn uchel.
39 Ac wedi mynd i mewn dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn llawn cynnwrf ac yn wylo? Nid yw'r plentyn wedi marw, cysgu y mae.”