6 A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o'i flaen,
7 a gwaeddodd â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.”
8 Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, “Dos allan, ysbryd aflan, o'r dyn.”
9 A gofynnodd iddo, “Beth yw dy enw?” Meddai yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom.”
10 Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio â'u gyrru allan o'r wlad.
11 Yr oedd yno ar lethr y mynydd genfaint fawr o foch yn pori.
12 Ac ymbiliodd yr ysbrydion aflan arno, “Anfon ni i'r moch; gad i ni fynd i mewn iddynt hwy.”