32 Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu.
33 Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen.
34 Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt.
35 Pan oedd hi eisoes wedi mynd yn hwyr ar y dydd daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr.
36 Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.”
37 Atebodd yntau hwy, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent wrtho, “A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?”
38 Meddai yntau wrthynt, “Pa sawl torth sydd gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedasant, “Pump, a dau bysgodyn.”