43 A chodasant ddeuddeg basgedaid o dameidiau bara, a pheth o'r pysgod.
44 Ac yr oedd y rhai oedd wedi bwyta'r torthau yn bum mil o wŷr.
45 Yna'n ddi-oed gwnaeth i'w ddisgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, i Bethsaida, tra byddai ef yn gollwng y dyrfa.
46 Ac wedi canu'n iach iddynt aeth ymaith i'r mynydd i weddïo.
47 Pan aeth hi'n hwyr yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir.
48 A gwelodd hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Yr oedd am fynd heibio iddynt;
49 ond pan welsant ef yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant,