12 ni adewch iddo mwyach wneud dim i'w dad neu i'w fam.
13 Yr ydych yn dirymu gair Duw trwy'r traddodiad a drosglwyddir gennych. Ac yr ydych yn gwneud llawer o bethau cyffelyb i hynny.”
14 Galwodd y dyrfa ato drachefn ac meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf bawb, a deallwch.
15 Nid oes dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan iddo yn gallu ei halogi; ond y pethau sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi.”
17 Ac wedi iddo fynd i'r tŷ oddi wrth y dyrfa, dechreuodd ei ddisgyblion ei holi am y ddameg.
18 Meddai yntau wrthynt, “A ydych chwithau hefyd yr un mor ddiddeall? Oni welwch na all dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan ei halogi,
19 oherwydd nid yw'n mynd i'w galon ond i'w gylla, ac yna y mae'n mynd allan i'r geudy?” Felly y cyhoeddodd ef yr holl fwydydd yn lân.