2 A gwelsant fod rhai o'i ddisgyblion ef yn bwyta'u bwyd â dwylo halogedig, hynny yw, heb eu golchi.
3 (Oherwydd nid yw'r Phariseaid, na neb o'r Iddewon, yn bwyta heb olchi eu dwylo hyd yr arddwrn, gan lynu wrth draddodiad yr hynafiaid;
4 ac ni fyddant byth yn bwyta, ar ôl dod o'r farchnad, heb ymolchi; ac y mae llawer o bethau eraill a etifeddwyd ganddynt i'w cadw, megis golchi cwpanau ac ystenau a llestri pres.)
5 Gofynnodd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion iddo, “Pam nad yw dy ddisgyblion di'n dilyn traddodiad yr hynafiaid, ond yn bwyta'u bwyd â dwylo halogedig?”
6 Dywedodd yntau wrthynt, “Da y proffwydodd Eseia amdanoch chwi ragrithwyr, fel y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau,ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
7 yn ofer y maent yn fy addoli,gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’
8 “Yr ydych yn anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynol.”