20 Ac meddai, “Yr hyn sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi.
21 Oherwydd o'r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio,
22 godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd;
23 o'r tu mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun.”
24 Cychwynnodd oddi yno ac aeth ymaith i gyffiniau Tyrus. Aeth i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni lwyddodd i ymguddio.
25 Ar unwaith clywodd gwraig amdano, gwraig yr oedd gan ei merch fach ysbryd aflan, a daeth a syrthiodd wrth ei draed ef.
26 Groeges oedd y wraig, Syropheniciad o genedl; ac yr oedd yn gofyn iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch.