34 a chan edrych i fyny i'r nef ochneidiodd a dweud wrtho, “Ephphatha”, hynny yw, “Agorer di”.
35 Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod a dechreuodd lefaru'n eglur.
36 A gorchmynnodd iddynt beidio â dweud wrth neb; ond po fwyaf yr oedd ef yn gorchymyn iddynt, mwyaf yn y byd yr oeddent hwy'n cyhoeddi'r peth.
37 Yr oeddent yn synnu'n fawr dros ben, gan ddweud, “Da y gwnaeth ef bob peth; y mae'n gwneud hyd yn oed i fyddariaid glywed ac i fudion lefaru.”