1 Meddai hefyd wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.”
2 Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy,
3 ac aeth ei ddillad i ddisgleirio'n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu.
4 Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses; ymddiddan yr oeddent â Iesu.
5 A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.”
6 Oherwydd ni wyddai beth i'w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint.