14 Pan ddaethant at y disgyblion gwelsant dyrfa fawr o'u cwmpas, ac ysgrifenyddion yn dadlau â hwy.
15 Ac unwaith y gwelodd yr holl dyrfa ef fe'u syfrdanwyd, a rhedasant ato a'i gyfarch.
16 Gofynnodd yntau iddynt, “Am beth yr ydych yn dadlau â hwy?”
17 Atebodd un o'r dyrfa ef, “Athro, mi ddois i â'm mab atat; y mae wedi ei feddiannu gan ysbryd mud,
18 a pha bryd bynnag y mae hwnnw'n gafael ynddo y mae'n ei fwrw ar lawr, ac y mae yntau'n malu ewyn ac yn ysgyrnygu ei ddannedd ac yn mynd yn ddiymadferth. A dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac ni allasant.”
19 Atebodd Iesu hwy: “O genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef ataf fi.”
20 A daethant â'r bachgen ato. Cyn gynted ag y gwelodd yr ysbryd ef, ysgytiodd y bachgen yn ffyrnig. Syrthiodd ar y llawr a rholio o gwmpas dan falu ewyn.