23 Dywedodd Iesu wrtho, “Os yw'n bosibl! Y mae popeth yn bosibl i'r sawl sydd â ffydd ganddo.”
24 Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, “Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd.”
25 A phan welodd Iesu fod tyrfa'n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. “Ysbryd mud a byddar,” meddai wrtho, “yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid â mynd i mewn iddo eto.”
26 A chan weiddi a'i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw.
27 Ond gafaelodd Iesu yn ei law ef a'i godi, a safodd ar ei draed.
28 Ac wedi iddo fynd i'r tŷ gofynnodd ei ddisgyblion iddo o'r neilltu, “Pam na allem ni ei fwrw ef allan?”
29 Ac meddai wrthynt, “Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan.”