25 A phan welodd Iesu fod tyrfa'n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. “Ysbryd mud a byddar,” meddai wrtho, “yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid â mynd i mewn iddo eto.”
26 A chan weiddi a'i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw.
27 Ond gafaelodd Iesu yn ei law ef a'i godi, a safodd ar ei draed.
28 Ac wedi iddo fynd i'r tŷ gofynnodd ei ddisgyblion iddo o'r neilltu, “Pam na allem ni ei fwrw ef allan?”
29 Ac meddai wrthynt, “Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan.”
30 Wedi iddynt adael y lle hwnnw, yr oeddent yn teithio trwy Galilea. Ni fynnai Iesu i neb wybod hynny,
31 oherwydd yr oedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda.”