32 Ond nid oeddent hwy'n deall ei eiriau, ac yr oedd arnynt ofn ei holi.
33 Daethant i Gapernaum, ac wedi cyrraedd y tŷ gofynnodd iddynt, “Beth oeddech chwi'n ei drafod ar y ffordd?”
34 Ond tewi a wnaethant, oherwydd ar y ffordd buont yn dadlau â'i gilydd pwy oedd y mwyaf.
35 Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, “Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb.”
36 A chymerodd blentyn, a'i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i'w freichiau, a dywedodd wrthynt,
37 “Pwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, nid myfi y mae'n ei dderbyn, ond yr hwn a'm hanfonodd i.”
38 Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni.”