20 Byddai pob Israeliad yn mynd at y Philistiaid i hogi ei swch a'i gaib a'i fwyell a'i gryman;
21 a'r pris oedd deuparth sicl am swch neu gaib, a thraean sicl am hogi'r bwyeill ac am osod swmbwl.
22 Felly, yn nydd rhyfel, nid oedd gan neb o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan gleddyf na gwaywffon, ond yr oedd rhai gan Saul a'i fab Jonathan.
23 Gosododd y Philistiaid wylwyr i warchod bwlch Michmas.