1 Samuel 16 BCND

Eneinio Dafydd yn Frenin

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Am ba hyd yr wyt yn mynd i ofidio am Saul, a minnau wedi ei wrthod fel brenin ar Israel? Llanw dy gorn ag olew a dos; yr wyf yn dy anfon at Jesse o Fethlehem, oherwydd yr wyf wedi gweld brenin imi ymysg ei feibion ef.”

2 Gofynnodd Samuel, “Sut y medraf fi fynd? Os clyw Saul, fe'm lladd.” Dywedodd yr ARGLWYDD, “Dos â heffer gyda thi, a dweud dy fod wedi dod i aberthu i'r ARGLWYDD.

3 Rho wahoddiad i Jesse i'r aberth; dangosaf finnau iti beth i'w wneud, ac eneinia imi yr un a ddywedaf wrthyt.”

4 Gwnaeth Samuel fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, a mynd i Fethlehem. Pan ddaeth henuriaid y dref yn gynhyrfus i'w gyfarfod a gofyn, “Ai mewn heddwch y daethost?”

5 atebodd yntau, “Ie, mewn heddwch. I aberthu i'r ARGLWYDD yr wyf fi yma; ymgysegrwch ac ymunwch â mi yn yr aberth.”

6 Cysegrodd yntau Jesse a'i feibion, a'u gwahodd i'r aberth. Fel yr oeddent yn dod, sylwodd ar Eliab a meddyliodd, “Yn sicr dyma'i eneiniog, gerbron yr ARGLWYDD.”

7 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Paid ag edrych ar ei wedd na'i daldra, oherwydd yr wyf wedi ei wrthod; oblegid nid yr hyn a wêl meidrolyn y mae Duw'n ei weld. Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sydd yn y galon.”

8 Yna galwodd Jesse am Abinadab a'i ddwyn gerbron, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.”

9 Yna parodd Jesse i Samma ddod, ond dywedodd Samuel, “Nid hwn chwaith a ddewisodd yr ARGLWYDD.”

10 A pharodd Jesse i saith o'i feibion ddod gerbron Samuel; ond dywedodd Samuel wrth Jesse, “Ni ddewisodd yr ARGLWYDD yr un o'r rhai hyn.”

11 Yna gofynnodd Samuel i Jesse, “Ai dyma'r bechgyn i gyd?” Atebodd yntau, “Y mae'r ieuengaf ar ôl, yn bugeilio'r defaid.” Ac meddai Samuel wrth Jesse, “Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod.”

12 Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw.”

13 Cymerodd Samuel y corn olew, a'i eneinio yng nghanol ei frodyr; a disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Ddafydd, o'r dydd hwnnw ymlaen. Yna aeth Samuel yn ôl i Rama.

Dafydd yn Llys Saul

14 Ciliodd ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrth Saul, a dechreuodd ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD aflonyddu arno.

15 Dywedodd gweision Saul wrtho, “Dyma sydd o'i le: y mae un o'r ysbrydion drwg yn aflonyddu arnat.

16 O na fyddai'n meistr yn gorchymyn i'w weision yma chwilio am ŵr sy'n medru canu telyn! Caiff yntau ei chanu pan fydd yr ysbryd drwg yn ymosod arnat, a byddi dithau'n well.”

17 Dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddyn sy'n delynor da, a dewch ag ef ataf.”

18 Atebodd un o'r gweision, “Mi welais fab i Jesse o Fethlehem, sy'n medru canu telyn, ac y mae'n ŵr dewr ac yn rhyfelwr; y mae'n siarad yn ddeallus ac yn un golygus hefyd, ac y mae'r ARGLWYDD gydag ef.”

19 Anfonodd Saul negeswyr at Jesse a dweud, “Anfon ataf dy fab Dafydd sydd gyda'r defaid.”

20 Cymerodd Jesse asyn gyda baich o fara, costrel o win, a myn gafr, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul.

21 Aeth Saul yn hoff iawn o Ddafydd pan ddaeth i weini ato, a gwnaeth ef yn gludydd arfau iddo.

22 Anfonodd Saul at Jesse a dweud, “Yr wyf am i Ddafydd gael aros yn fy ngwasanaeth, oherwydd yr wyf wrth fy modd gydag ef.”

23 Pryd bynnag y byddai'r ysbryd drwg yn blino Saul, byddai Dafydd yn cymryd ei delyn ac yn ei chanu; rhoddai hynny esmwythâd i Saul a'i wella, fel bod yr ysbryd drwg yn cilio oddi wrtho.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31