1 Ffodd Dafydd o Naioth ger Rama, a daeth at Jonathan a gofyn, “Beth wnes i? Beth yw fy mai a'm pechod gerbron dy dad, fel ei fod yn ceisio f'einioes?”
2 Dywedodd Jonathan, “Pell y bo! Ni fyddi farw. Edrych yma, nid yw fy nhad yn gwneud dim, bach na mawr, heb ddweud wrthyf fi; pam felly y byddai fy nhad yn celu'r peth hwn oddi wrthyf? Nid oes dim yn y peth.”
3 Ond tyngodd Dafydd wrtho eto a dweud, “Y mae dy dad yn gwybod yn iawn imi gael ffafr yn d'olwg, a dywedodd, ‘Nid yw Jonathan i wybod hyn, rhag iddo boeni.’ Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, dim ond cam sydd rhyngof fi ac angau.”
4 Yna gofynnodd Jonathan i Ddafydd, “Beth a ddymuni imi ei wneud iti?”
5 Ac meddai Dafydd wrth Jonathan, “Y mae'n newydd-loer yfory, a dylwn fod yno'n bwyta gyda'r brenin; gad imi fynd ac ymguddio yn y maes tan yr hwyr drennydd.
6 Os bydd dy dad yn holi'n arw amdanaf, dywed, ‘Fe grefodd Dafydd am ganiatâd gennyf i fynd draw i'w dref ei hun, Bethlehem, am fod yno aberth blynyddol i'r holl dylwyth.’
7 Os dywed, ‘Popeth yn dda’, yna y mae'n ddiogel i'th was; ond os cyll ei dymer, byddi'n gwybod ei fod yn bwriadu drwg.
8 Bydd yn deyrngar i'th was, oherwydd gwnaethost gyfamod â mi gerbron yr ARGLWYDD. Ac os oes bai ynof, lladd fi dy hun; pam mynd â mi at dy dad?”
9 Atebodd Jonathan, “Pell y bo hynny! Pe bawn i'n gwybod o gwbl fod fy nhad yn bwriadu drwg iti, oni fyddwn yn dweud wrthyt?”
10 Gofynnodd Dafydd i Jonathan, “Pwy sydd i ddweud wrthyf os bydd dy dad yn rhoi ateb chwyrn iti?”
11 Dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, “Tyrd, gad inni fynd i'r maes.”
12 Aeth y ddau allan i'r maes, ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, mi holaf fy nhad tua'r adeg yma yfory am y trydydd tro; yna, os newydd da fydd i Ddafydd, anfonaf air i ddweud wrthyt.
13 Ond os yw fy nhad am wneud niwed iti, yna fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, Jonathan, a rhagor, os na fyddaf yn dweud wrthyt, er mwyn iti gael mynd ymaith yn ddiogel. Bydded yr ARGLWYDD gyda thi, fel y bu gyda'm tad.
14 Os byddaf fyw, gwna drugaredd â mi yn enw'r ARGLWYDD.
15 Ond os byddaf farw, paid byth ag atal dy drugaredd oddi wrth fy nheulu. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi torri ymaith holl elynion Dafydd oddi ar wyneb y tir,
16 na fydded Jonathan wedi ei dorri oddi wrth deulu Dafydd; a bydded i'r ARGLWYDD ddial ar elynion Dafydd.”
17 Tyngodd Jonathan eto i Ddafydd am ei fod yn ei garu, oherwydd yr oedd yn ei garu fel ei enaid ei hun.
18 A dywedodd Jonathan wrtho, “Y mae'n newydd-loer yfory, a gwelir dy eisiau pan fydd dy le yn wag; a thrennydd byddant yn chwilio'n ddyfal amdanat.
19 Dos dithau i'r man yr ymguddiaist ynddo adeg y digwyddiad o'r blaen, ac aros yn ymyl y garreg fan draw.
20 Saethaf finnau dair saeth i'w hymyl, fel pe bawn yn saethu at nod.
21 Wedyn anfonaf y llanc a dweud, ‘Dos i nôl y saethau.’ Os byddaf yn dweud wrth y llanc, ‘Edrych, y mae'r saethau y tu yma iti; cymer hwy’, yna tyrd, oherwydd y mae'n ddiogel iti, heb unrhyw berygl, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.
22 Ond os dywedaf fel hyn wrth y llencyn: ‘Edrych, y mae'r saethau y tu draw iti’, yna dos, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dy anfon i ffwrdd.
23 Bydded yr ARGLWYDD yn dyst am byth rhyngof fi a thi yn y cytundeb hwn a wnaethom ein dau.”
24 Ymguddiodd Dafydd yn y maes; a phan ddaeth y newydd-loer,
25 eisteddodd y brenin i lawr i fwyta'r pryd, a chymryd ei le arferol ar y sedd wrth y pared, gyda Jonathan gyferbyn, ac Abner yn eistedd wrth ochr Saul; ond roedd lle Dafydd yn wag.
26 Ni ddywedodd Saul ddim y diwrnod hwnnw, gan feddwl mai rhyw hap oedd, ac nad oedd yn lân.
27 Ond pan oedd lle Dafydd yn wag drannoeth, ar ail ddiwrnod y newydd-loer, gofynnodd Saul i'w fab Jonathan, “Pam nad yw mab Jesse wedi dod i fwyta, ddoe na heddiw?”
28 Atebodd Jonathan, “O, fe grefodd Dafydd arnaf am gael mynd i Fethlehem,
29 a dweud, ‘Gad imi fynd, oherwydd y mae gan y teulu aberth yn y dref, ac y mae fy mrawd wedi peri i mi fod yno; felly, os gweli di'n dda, gad imi fynd draw i weld fy mrodyr.’ Dyna pam nad yw wedi dod at fwrdd y brenin.”
30 Gwylltiodd Saul wrth Jonathan a dywedodd wrtho, “Ti fab putain anufudd! Oni wyddwn dy fod yn ochri gyda mab Jesse, er cywilydd i ti dy hun ac i warth dy fam?
31 Oherwydd tra bydd mab Jesse fyw ar y ddaear, ni fyddi di na'r frenhiniaeth yn ddiogel. Anfon ar unwaith a thyrd ag ef ataf, oherwydd y mae'n haeddu marw.”
32 Atebodd Jonathan a dweud wrth ei dad, “Pam ei roi i farwolaeth? Beth y mae wedi ei wneud?”
33 Yna hyrddiodd Saul waywffon ato i'w daro, a sylweddolodd Jonathan fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.
34 Felly cododd Jonathan oddi wrth y bwrdd yn wyllt ei dymer, a heb fwyta tamaid ar ail ddiwrnod y newydd-loer, am ei fod yn gofidio dros Ddafydd, a bod ei dad wedi rhoi sen arno yntau.
35 Bore trannoeth aeth Jonathan allan i'r maes i gadw ei oed â Dafydd, a llanc ifanc gydag ef.
36 Dywedodd wrth y llanc, “Rhed di i nôl y saethau y byddaf fi'n eu saethu.” Tra oedd y llanc yn rhedeg, yr oedd ef yn saethu'r saethau y tu draw iddo.
37 Wedi i'r llanc gyrraedd y man y disgynnodd y saethau, gwaeddodd Jonathan ar ôl y llanc, “Onid yw'r saethau y tu draw iti?” Yna gwaeddodd ar ôl y llanc, “Dos, brysia, paid â sefyllian.”
38 Casglodd llanc Jonathan y saethau a'u dwyn yn ôl at ei feistr.
39 Nid oedd y llanc yn sylweddoli dim, ond yr oedd Jonathan a Dafydd yn deall y neges.
40 Rhoddodd Jonathan ei offer i'r llanc oedd gydag ef, a dweud wrtho, “Dos, cymer hwy'n ôl adref.”
41 Wedi i'r llanc fynd, cododd Dafydd o'r tu ôl i'r garreg, a syrthio ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu deirgwaith. Yna cusanodd y ddau ei gilydd ac wylo, yn enwedig Dafydd.
42 Ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Dos mewn heddwch; yr ydym ein dau wedi tyngu yn enw'r ARGLWYDD y bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth.” Yna aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Jonathan adref.