1 Samuel 27 BCND

Dafydd ymhlith y Philistiaid

1 Meddyliodd Dafydd, “Rhyw ddiwrnod fe'm difethir trwy law Saul; y peth gorau i mi fydd dianc draw i wlad Philistia, fel na fydd gan Saul obaith dod o hyd imi yn unman o fewn cyrrau Israel; a byddaf yn ddiogel o'i gyrraedd.”

2 Felly cychwynnodd Dafydd, a'r chwe chant o ddynion oedd gydag ef, a mynd at Achis fab Maoch, brenin Gath.

3 Arhosodd Dafydd gydag Achis yn Gath, ef a'i ddynion a'u teuluoedd; a chyda Dafydd yr oedd ei ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal o Garmel.

4 Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi ffoi i Gath, rhoddodd yntau'r gorau i chwilio amdano.

5 Dywedodd Dafydd wrth Achis, “Os gweli'n dda, gad imi gael lle i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad. Pam y dylai dy was fyw yn y brifddinas gyda thi?”

6 Yr adeg honno rhoddodd Achis iddo Siclag, a dyna pam y mae Siclag yn perthyn i frenhinoedd Jwda hyd heddiw.

7 Am gyfnod o flwyddyn a phedwar mis y bu Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia.

8 Byddai Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Gesuriaid a'r Gersiaid a'r Amaleciaid (oherwydd hwy oedd yn preswylio'r wlad o Telam, ar y ffordd i Sur, hyd at yr Aifft).

9 Pan fyddai'n taro ardal, ni adawai'n fyw na dyn na dynes; a byddai'n cymryd defaid, gwartheg, asynnod, camelod a gwisgoedd, ac yna'n dychwelyd at Achis.

10 Pan fyddai Achis yn gofyn, “I ble'r oedd eich cyrch heddiw?” byddai Dafydd yn ateb, “O, yn erbyn Negef Jwda”; neu, “Yn erbyn Negef y Jerahmeeliaid”; neu, “Yn erbyn Negef y Ceneaid”.

11 Nid oedd Dafydd yn gadael yr un dyn na dynes yn fyw i gario newyddion i Gath, rhag iddynt adrodd yr hanes a dweud, “Fel hyn y gwnaeth Dafydd, a dyma'i arfer tra bu'n byw yng nghefn gwlad Philistia.”

12 Yr oedd Achis yn credu Dafydd ac yn meddwl, “Yn sicr y mae wedi ei ffieiddio gan ei bobl Israel, a bydd yn was i mi am byth.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31