1 Yr oedd gair Samuel yn air i Israel gyfan.Aeth Israel i ryfel yn erbyn y Philistiaid a gwersyllu ger Ebeneser, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Affec.
2 Wedi i'r Philistiaid drefnu eu byddin yn erbyn Israel, aeth yn frwydr, a threchwyd Israel gan y Philistiaid; lladdwyd tua phedair mil o'r fyddin ar faes y gad.
3 Pan ddychwelodd y bobl i'r gwersyll, holodd henuriaid Israel, “Pam y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a doed i'n plith i'n hachub o law ein gelynion.”
4 Anfonodd y bobl i Seilo a chymryd oddi yno arch cyfamod ARGLWYDD y Lluoedd sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid. Yno hefyd, gydag arch cyfamod Duw, yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees.
5 Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, gwaeddodd yr Israeliaid i gyd â bloedd uchel nes bod y ddaear yn datseinio.
6 Clywodd y Philistiaid y floedd a gofyn, “Beth yw'r floedd fawr hon a glywir yng ngwersyll yr Hebreaid?” Wedi iddynt ddeall mai arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd wedi cyrraedd i'r gwersyll,
7 ofnodd y Philistiaid, oherwydd dweud yr oeddent, “Daeth duw i'r gwersyll.” Ac meddent, “Gwae ni! Oherwydd ni fu peth fel hyn erioed o'r blaen.
8 Gwae ni! Pwy a'n gwared ni o law'r duwiau nerthol hyn? Dyma'r duwiau a drawodd yr Eifftiaid â phob math o bla yn yr anialwch.
9 Byddwch yn gryf a gwrol, O Philistiaid, rhag i chwi fynd yn gaeth i'r Hebreaid fel y buont hwy i chwi; ie, byddwch yn wrol ac ymladd.”
10 Ymladdodd y Philistiaid, a threchwyd Israel, a ffodd pawb adref. Bu lladdfa fawr iawn, a syrthiodd deng mil ar hugain o wŷr traed Israel.
11 Hefyd cymerwyd arch Duw, a bu farw Hoffni a Phinees, dau fab Eli.
12 Y diwrnod hwnnw rhedodd un o wŷr Benjamin o'r frwydr a chyrraedd Seilo â'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben.
13 Pan ddaeth, dyna lle'r oedd Eli yn eistedd ar sedd gerllaw'r ffordd yn disgwyl, am ei fod yn bryderus iawn am arch Duw. Pan ddaeth y dyn a chyhoeddi'r newydd yn y ddinas, bu llefain drwy'r ddinas.
14 A phan glywodd Eli sŵn y llefain, holodd, “Beth yw'r cynnwrf yma?” Yna brysiodd y dyn, a dod ac adrodd yr hanes wrth Eli.
15 Yr oedd Eli'n naw deg ac wyth oed, a'i lygaid wedi pylu fel na fedrai weld.
16 A dywedodd y dyn wrth Eli, “Myfi sydd wedi dod o'r frwydr; heddiw y ffois o'r gad.” Yna gofynnodd iddo, “Beth yw'r newydd, fy machgen?”
17 Atebodd y cennad, “Ffodd Israel o flaen y Philistiaid, a bu lladdfa fawr ymysg y bobl hefyd; y mae dy ddau fab, Hoffni a Phinees wedi marw, ac arch Duw wedi ei chymryd.”
18 Pan soniodd am arch Duw, syrthiodd Eli yn wysg ei gefn oddi ar y sedd gerllaw'r porth, a thorri ei wddf a marw, oherwydd yr oedd yn hen ac yn ddyn trwm. Yr oedd wedi barnu Israel am ddeugain mlynedd.
19 Yr oedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phinees, yn feichiog ac yn agos i esgor. Pan glywodd hi'r newydd fod arch Duw wedi ei chymryd a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw, crymodd ac esgorodd, oherwydd daeth ei gwewyr arni.
20 Ac fel yr oedd hi'n marw, dywedodd y merched oedd o'i chwmpas, “Paid ag ofni, rwyt ti wedi esgor ar fab.” Nid atebodd hi na chymryd sylw,
21 ond enwi'r bachgen, Ichabod, a dweud, “Ciliodd gogoniant o Israel,” oherwydd colli arch Duw a'i thad-yng-nghyfraith a'i gŵr.
22 Dyna a ddywedodd, “Ciliodd gogoniant o Israel, oherwydd cymryd arch Duw.”