2 Yr oedd Saul yn aros yng nghwr Gibea, dan y pren pomgranad sydd yn Migron, a thua chwe chant o bobl gydag ef;
3 Ahia, mab Ahitub brawd Ichabod, fab Phinees, fab Eli, offeiriad yr ARGLWYDD yn Seilo, oedd yn cario'r effod. Ni wyddai'r bobl fod Jonathan wedi mynd.
4 Yn y bwlch lle'r oedd Jonathan yn ceisio croesi tuag at wylwyr y Philistiaid yr oedd clogwyn o graig ar y naill ochr a'r llall; Boses oedd enw'r naill a Senne oedd enw'r llall.
5 Yr oedd un clogwyn yn taflu allan i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba.
6 Dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, “Tyrd, awn drosodd at y gwylwyr dienwaededig acw; efallai y bydd yr ARGLWYDD yn gweithio o'n plaid, oherwydd nid oes dim i rwystro'r ARGLWYDD rhag gwaredu trwy lawer neu drwy ychydig.”
7 Dywedodd cludydd ei arfau wrtho, “Gwna beth bynnag sydd yn dy fryd; dygna arni; rwyf gyda thi, galon wrth galon.”
8 Dywedodd Jonathan, “Edrych yma, fe awn drosodd at y dynion a'n dangos ein hunain iddynt.