16 Am hynny bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn anfon clefyd i nychu ei ryfelwyr praff,a than ei ogoniant fe gyfyd twymynfel llosgiad tân.
17 Bydd Goleuni Israel yn dâna'i Un Sanctaidd yn fflam;fe lysg ac fe ysaei ddrain a'i fieri mewn un dydd.
18 Fe ddifoda ogoniant ei goedwig a'i ddoldir,fel claf yn nychu, yn enaid a chorff.
19 A bydd gweddill prennau ei goedwig mor brinnes y bydd plentyn yn gallu eu cyfrif.
20 Yn y dydd hwnnw ni fydd gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd yn nhŷ Jacob, yn pwyso bellach ar yr un a'u trawodd; ond pwysant yn llwyr ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel.
21 Bydd gweddill yn dychwel, gweddill Jacob,at Dduw sydd yn gadarn.
22 Canys, er i'th bobl Israel fod fel tywod y môr,gweddill yn unig fydd yn dychwel.Cyhoeddwyd dinistr, yn gorlifo mewn cyfiawnder.