1 Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio,ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo;pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir,pan beidi â thwyllo, fe'th dwyllir di.
2 O ARGLWYDD, trugarha wrthym, yr ydym yn disgwyl amdanat;bydd yn nerth i ni bob bore,ac yn iachawdwriaeth i ni ar awr gyfyng.
3 Gan sŵn terfysg fe ffy pobloedd,gan dy daranu di fe wasgerir cenhedloedd.
4 Cesglir eich ysbail fel petai lindys yn ei gasglu;fel haid o locustiaid fe heidir o'i gylch.
5 Dyrchafwyd yr ARGLWYDD, fe drig yn yr uchelder;fe leinw Seion â barn a chyfiawnder,
6 ac ef fydd sicrwydd dy amserau.Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth,ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor.
7 Clyw! Y mae'r glewion yn galw o'r tu allan,a chenhadau heddwch yn wylo'n chwerw.
8 Y mae'r priffyrdd yn ddiffaith,heb neb yn troedio'r ffordd;diddymwyd cyfamodau, diystyrwyd cytundebau,nid yw neb yn cyfrif dim.
9 Y mae'r wlad mewn galar a gofid,Lebanon wedi drysu a gwywo;aeth Saron yn anialwch,a Basan a Charmel heb ddail.
10 “Ond yn awr mi godaf,” medd yr ARGLWYDD,“yn awr mi ymddyrchafaf, yn awr byddaf yn uchel.
11 Yr ydych yn feichiog o us ac yn esgor ar sofl;tân yn eich ysu fydd eich anadl;
12 bydd y bobl fel llwch calch,fel drain wedi eu torri a'u llosgi yn y tân.”
13 Chwi rai pell, gwrandewch beth a wneuthum,ac ystyriwch fy nerth, chwi rai agos.
14 Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni,a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn:“Pwy ohonom a all fyw gyda thân ysol,a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?”
15 Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir,sy'n gwrthod elw trawster,sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr,sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio,sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.
16 Y mae ef yn trigo yn yr uchelder,a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau,a'i fara'n dod iddo, a'i ddŵr yn sicr.
17 Fe wêl dy lygaid frenin yn ei degwch,a gwelant dir yn ymestyn ymhell;
18 byddi'n dwyn i gof yr ofnau:“Ble mae'r un fu'n cofnodi?Ble mae'r un fu'n pwyso?Ble mae'r un fu'n cyfri'r tyrau?”
19 Ni chei weld pobl farbaraidd,pobl a'u hiaith yn rhy ddieithr i'w dirnad,a'u tafod yn rhy floesg i'w ddeall.
20 Edrych ar Seion, dinas ein huchelwyliau;bydded dy lygaid yn gweld Jerwsalem,bro diddanwch, pabell na symudir;ni thynnir un o'i phegiau byth,ac ni thorrir un o'i rhaffau.
21 Yno, yn wir, y mae gennym yr ARGLWYDD yn ei fawredd,a mangre afonydd a ffrydiau llydain;ni fydd llong rwyfau'n tramwy yno,na llong fawr yn hwylio heibio.
22 Yr ARGLWYDD yw ein barnwr,yr ARGLWYDD yw ein deddfwr;yr ARGLWYDD yw ein brenin,ac ef fydd yn ein gwaredu.
23 Y mae dy raffau'n llac,heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le,ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu.Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr,a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth.
24 Ni ddywed neb o'r preswylwyr, “Rwy'n glaf”,a maddeuir i'r trigolion eu camweddau.