1 Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml.
2 Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg.
3 Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall,“Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd;y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.”
4 Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tŷ gan fwg.
5 Yna dywedais, “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.”
6 Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor;
7 ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, “Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod.”
8 Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud,“Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?”Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.”
9 Dywedodd,“Dos, dywed wrth y bobl hyn,‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall;edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’
10 Brasâ galon y bobl,trymha eu clustiau,cau eu llygaid;rhag iddynt weld â'u llygaid,clywed â'u clustiau,deall â'u calon,a dychwelyd i'w hiacháu.”
11 Gofynnais innau, “Pa hyd, ARGLWYDD?” Atebodd,“Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithioheb drigiannydd,a'r tai heb bobl,a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd;
12 nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell,a difrod mawr yng nghanol y wlad.
13 Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi,fe'i llosgir drachefn;fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith,fel boncyff o'r uchelfa.Had sanctaidd yw ei boncyff.”