30 Bloeddia'n groch, Bath-galim;gwrando arni, Lais; ateb hi, Anathoth.
31 Y mae Madmena ar ffo,a phobl Gebim yn chwilio am nodded.
32 Heddiw y mae'n sefyll yn Nob,ac yn cau ei ddwrn yn erbyn mynydd merch Seion,bryn Jerwsalem.
33 Wele yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn cymynu'r prennau yn frawychus;torrir ymaith y rhai talgryf,a chwympir y rhai uchel.
34 Tyr â bwyell lwyni'r goedwig,a syrth Lebanon a'i choed cadarn.