1 Tosturia'r ARGLWYDD wrth Jacob, ac fe ddewis Israel drachefn iddo'i hun. Fe'u gesyd yn eu tir eu hunain, a daw estroniaid i ymgysylltu â hwy ac i lynu wrth deulu Jacob.
2 Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.
3 Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi,
4 fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon:O fel y darfu'r gorthrymwrac y peidiodd ei orffwylltra!