8 Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn,a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud,“Er pan fwriwyd di ar dy orweddni chododd neb i'n torri ni i lawr.”
9 Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddii'th dderbyn pan gyrhaeddi;bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod,pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear;gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd,sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.
10 Bydd pob un ohonynt yn ymateb,ac yn dy gyfarch fel hyn:“Aethost tithau'n wan fel ninnau;yr wyt yr un ffunud â ni.”
11 Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol,yn sŵn miwsig dy nablau;oddi tanat fe daenir y llyngyr,a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid.
12 O fel y syrthiaist o'r nefoedd,ti, seren ddydd, fab y wawr!Fe'th dorrwyd i'r llawr,ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd.
13 Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd,dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf;eisteddaf ar y mynydd cynnullym mhellterau'r Gogledd.
14 Dringaf yn uwch na'r cymylau;fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.”