2 Gwrthodir ei dinasoedd am byth,a byddant yn lle i ddiadelloeddorwedd ynddo heb neb i'w cyffroi.
3 Derfydd am y gaer yn Effraim,ac am y frenhiniaeth yn Namascus;bydd gweddill Syria fel gogoniant Israel,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4 “Ac yn y dydd hwnnw,bydd gogoniant Jacob yn cilioa braster ei gig yn darfod.
5 Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd ŷd,ac yn medi'r tywysennau â'i fraich,bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim.
6 Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd,dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau,pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed,”medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.
7 Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel.
8 Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd—y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.