11 O'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan,y doethion sy'n cynghori Pharo â chyngor hurt!Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, “Mab y doethion wyf fi,o hil yr hen frenhinoedd”?
12 Ble mae dy ddoethion?Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgubeth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglŷn â'r Aifft.
13 Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid,a thwyllwyd tywysogion Noff;aeth penaethiaid ei llwythau â'r Aifft ar gyfeiliorn.
14 Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn,a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna,fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.
15 Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb,na phen na chynffon, na changen na brwynen.
16 Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn.
17 Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob sôn amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.