13 Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid,a thwyllwyd tywysogion Noff;aeth penaethiaid ei llwythau â'r Aifft ar gyfeiliorn.
14 Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn,a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna,fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.
15 Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb,na phen na chynffon, na changen na brwynen.
16 Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn.
17 Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob sôn amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.
18 Yn y dydd hwnnw bydd pump o ddinasoedd yr Aifft yn siarad iaith Canaan, ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i ARGLWYDD y Lluoedd. Enw un ohonynt fydd Dinas yr Haul.
19 Yn y dydd hwnnw bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD ar ei goror.