20 Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub.
21 Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo.
22 Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft, yn ei tharo ac yn ei gwella; pan ddychwelant at yr ARGLWYDD bydd yntau'n gwrando arnynt ac yn eu hiacháu.
23 Yn y dydd hwnnw bydd priffordd o'r Aifft i Asyria; fe â'r Asyriaid i'r Aifft a'r Eifftiaid i Asyria, a bydd yr Eifftiaid yn addoli gyda'r Asyriaid.
24 Yn y dydd hwnnw bydd Israel yn un o dri, gyda'r Aifft ac Asyria, ac yn gyfrwng bendith yng nghanol y byd.
25 Bendith ARGLWYDD y Lluoedd fydd, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy nwylo, ac ar Israel, f'etifeddiaeth.”