7 bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil,a bydd popeth a heuir gyda glan yr afonyn crino ac yn diflannu'n llwyr.
8 Bydd y pysgotwyr yn tristáu ac yn cwynfan,pob un sy'n taflu bach yn y Neil;bydd y rhai sy'n bwrw rhwydi ar y dyfroedd yn dihoeni.
9 Bydd gweithwyr llin mewn trallod,a'r cribwragedd a'r gwehyddion yn gwelwi.
10 Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisela phob crefftwr yn torri ei galon.
11 O'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan,y doethion sy'n cynghori Pharo â chyngor hurt!Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, “Mab y doethion wyf fi,o hil yr hen frenhinoedd”?
12 Ble mae dy ddoethion?Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgubeth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglŷn â'r Aifft.
13 Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid,a thwyllwyd tywysogion Noff;aeth penaethiaid ei llwythau â'r Aifft ar gyfeiliorn.