2 Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoeddac yn uwch na'r bryniau.Dylifa'r holl genhedloedd ato,
3 a daw pobloedd lawer, a dweud,“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,i deml Duw Jacob;bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd,a byddwn ninnau'n rhodio yn ei lwybrau.”Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
4 Barna ef rhwng cenhedloedd,a thorri'r ddadl i bobloedd lawer;curant eu cleddyfau'n geibiau,a'u gwaywffyn yn grymanau.Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,ac ni ddysgant ryfel mwyach.
5 Tŷ Jacob, dewch, rhodiwn yng ngoleuni'r ARGLWYDD.
6 Gwrthodaist dŷ Jacob, dy bobl,oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain,a swynwyr fel y Philistiaid,ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.
7 Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur,ac nid oes terfyn ar eu trysorau;y mae eu gwlad yn llawn o feirch,ac nid oes terfyn ar eu cerbydau;
8 y mae eu gwlad yn llawn o eilunod;ymgrymant i waith eu dwylo,i'r hyn a wnaeth eu bysedd.