1 Nesewch i wrando, chwi genhedloedd;clywch, chwi bobloedd.Gwrandawed y ddaear a'i llawnder,y byd a'i holl gynnyrch.
2 Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl,a'i lid ar eu holl luoedd;difroda hwy a'u rhoi i'w lladd.
3 Bwrir allan eu lladdedigion,cyfyd drewdod o'u celanedd,a throchir y mynyddoedd â'u gwaed.
4 Malurir holl lu'r nefoedd,plygir yr wybren fel sgrôl,a chwymp ei holl lu,fel cwympo dail oddi ar winwyddena ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren.
5 Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef;wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.
6 Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyfwedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster,ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod.Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra,a lladdfa fawr yn nhir Edom.