4 Malurir holl lu'r nefoedd,plygir yr wybren fel sgrôl,a chwymp ei holl lu,fel cwympo dail oddi ar winwyddena ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren.
5 Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef;wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.
6 Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyfwedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster,ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod.Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra,a lladdfa fawr yn nhir Edom.
7 Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy,a bustych gyda theirw;mwydir eu tir gan waed,a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster.
8 Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial,a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth.
9 Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan;bydd ei gwlad yn byg yn llosgi;
10 nis diffoddir na nos na dydd,a bydd ei mwg yn esgyn am byth.O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith,ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto.