9 Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan;bydd ei gwlad yn byg yn llosgi;
10 nis diffoddir na nos na dydd,a bydd ei mwg yn esgyn am byth.O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith,ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto.
11 Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn,a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno;bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn,a phlymen tryblith dros ei dewrion.
12 Fe'i gelwir yn lle heb deyrn,a bydd ei holl dywysogion yn ddiddim.
13 Bydd drain yn tyfu yn ei phalasau,danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd;bydd yn drigfan i fleiddiaid,yn gyrchfan i estrys.
14 Bydd yr anifeiliaid gwyllt a'r siacal yn cydgrynhoi,a'r bwchgafr yn galw ar ei gymar;yno hefyd y clwyda'r frân nosac y daw o hyd i'w gorffwysfa.
15 Yno y nytha'r dylluan,a dodwy ei hwyau a'u deor,a chasglu ei chywion dan ei hadain;yno hefyd y bydd y barcutiaid yn ymgasglu,pob un gyda'i gymar.