15 “A anghofia gwraig ei phlentyn sugno,neu fam blentyn ei chroth?Fe allant hwy anghofio,ond nid anghofiaf fi di.
16 Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo;y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid;
17 y mae dy adeiladwyr yn gyflymach na'r rhai sy'n dy ddinistrio,ac y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith.
18 Edrych o'th amgylch, a gwêl;y mae pawb yn ymgasglu ac yn dod atat.Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr ARGLWYDD,“byddi'n eu gwisgo i gyd fel addurn,ac yn eu rhwymo amdanat fel y gwna priodferch.
19 Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaithyn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr,gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.
20 Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alaryn dweud eto'n hyglyw,‘Nid oes digon o le i mi;symud draw, i mi gael lle i fyw.’
21 “Yna y dywedi ynot dy hun,‘Pwy a genhedlodd y rhain i mi,a minnau'n weddw ac yn ddi-blant?Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref;pwy a'u magodd hwy?Yn wir, roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;o ble, ynteu, y daeth y rhain?’ ”